Gwybodaeth » Arian » Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
- Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ariannol i helpu pobl i reoli eu harian
- Yn ogystal â chynnig cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo, maen nhw hefyd yn cynnig cardiau credyd, benthyciadau a morgeisiau
- Mae pob banc neu gymdeithas adeiladu yn wahanol a gall y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig amrywio
- Cyn ymuno ag unrhyw wasanaeth banc neu gymdeithas adeiladu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n chwilio am y fargen orau, a pheidiwch byth â llofnodi unrhyw beth os nad ydych chi’n deall yr amodau yn llwyr. Darllenwch y print mân bob amser!
- Os ydych chi’n poeni ynglŷn â’ch cyllid, siaradwch â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor
- Os oes gennych chi gŵyn am fanc neu gymdeithas adeiladu, ysgrifennwch at eu pencadlys neu cysylltwch â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), sy’n rheoleiddio’r holl fanciau a chymdeithasau adeiladu





