Gwybodaeth » Arian » Cyllidebu
- Mae cyllidebu yn ffordd dda o wybod faint rydych chi’n mynd i’w wario bob wythnos, mis neu flwyddyn, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi’n gwario mwy nag rydych chi’n gallu ei fforddio
- Mae creu cyllideb yn golygu edrych ar faint o arian sydd gennych chi’n dod i mewn (eich incwm) a faint rydych chi’n ei wario neu’n disgwyl ei wario (eich gwariant)
- Efallai y byddwch chi hefyd yn sylweddoli bod angen ichi greu cyllideb tymor byr, er enghraifft, os ydych chi’n cynilo ar gyfer rhywbeth neu os ydych chi am wneud yn siŵr y gallwch chi fforddio’ch costau bob dydd, neu gyllideb tymor hir, er enghraifft, os ydych chi’n benthyca arian
- Mae’r adran yma’n edrych ar sut y gallwch chi gyllidebu a bod â mwy o reolaeth ar eich arian eich hun





