Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Cwpan Ryder
- Twrnamaint golff yw Cwpan Ryder, lle mae tïm o golffwyr gorau America yn cystadlu yn erbyn tïm o golffwyr gorau Ewrop i ennill tlws y Cwpan Ryder
- Mae lleoliad y gystadleuaeth yn newid o’r naill gyfandir i’r llall bob dwy flynedd
- Dyma drydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd
- Mae Gemau Cwpan Ryder yn cael eu rheoli ar y cyd gan PGA (Professional Golfers’ Association) o America a PGA European Tour
- Mae gwledydd yn gwneud cais i gynnal y Cwpan Ryder
- Mae Cymru wedi ennill y cais i gynnal Cwpan Ryder 2010 yn y Celtic Manor, Casnewydd
A wyddoch chi…?
- Cafodd y twrnamaint cyntaf ei gynnal yn 1927, gyda’r Unol Daleithiau’n cystadlu yn erbyn Prydain Fawr. Ehangwyd y gystadleuaeth yn ddiweddarach i gwmpasu gweddill Ewrop
- Fel arfer, bydd mwy na 400 miliwn o bobl yn gwylio’r twrnamaint ar y teledu
- Bydd yr effaith economaidd ar Gymru yn anferth – amcangyfrifir i Sbaen ennill £56.2 miliwn pan gafodd y digwyddiad ei gynnal yno yn 1997





