Croeso i Ieuenctid Sir Gâr! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Rali Cymru PF

  • Rali Cymru Prydain Fawr yw cymal Prydeinig Pencampwriaeth Rali’r Byd
  • Mae Pencampwriaeth Rali’r Byd yn gyfres o ralïau dros y byd i gyd sy’n digwydd bob blwyddyn, ac yn gorffen gyda gyrrwr buddugol a chwmni ceir buddugol
  • Cafodd y cymal Prydeinig ei gynnal yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2005, gan ddisodli Rali’r RAC. Mae gan Gymru’r contract i gynnal y cymal Prydeinig hyd at 2011
  • Trwy gynnal y cymal Prydeinig yng Nghymru nes 2011, credir y bydd hyn yn werth tua £40 miliwn i economi Cymru
  • Pencampwriaeth Rali’r Byd yw’r ail ddigwyddiad mwyaf ei fri ym maes chwaraeon ceir yn y byd
  • Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar ffyrdd cul yn y goedwig ac yn wlad o Gaerdydd i Abertawe, Canolfan Ralio Abertawe yn Felindre, a Stadiwm y Mileniwm
  • Fel arfer mae’r tywydd yn gyfnewidiol – o law, cenllysg ac eira i heulwen. Daw’r ffyrdd yn arbennig o fwdlyd a llithrig pan fo’r tywydd yn wlyb, ac mae hyn yn golygu bod Rali Cymru yn dwrnamaint rhyngwladol anodd iawn

A wyddoch chi fod…?

  • Pencampwriaeth gyntaf Rali’r Byd wedi’i chynnal yn 1973
  • Rali Cymru PF yw digwyddiad mwyaf y flwyddyn ym myd chwaraeon ym Mhrydain, a rhaid wrth 5,000 o wirfoddolwyr a marsialyddion. Mae’n denu o leiaf hanner miliwn o ymwelwyr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50