Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Twrnameintiau a Chystadlaethau Rhyngwladol » Y Gemau Olympaidd
- Mae’r Gemau Olympaidd yn gyfres o ddigwyddiadau lle y gall athletwyr gorau’r byd ddangos eu medr a’u dygnwch mewn nifer o gystadlaethau
- Dyma ddigwyddiad chwaraeon lluosog mwyaf y byd
- Mae’r Gemau wedi’u cynnal bob pedair blynedd ers 1896 yn ystod yr haf
- Mae bron pob gwlad yn anfon tïm o athletwyr dethol i gystadlu
- Mae’r Gemau’n cael eu cynnal mewn gwlad wahanol bob tro, ac mae nifer o wledydd yn gwneud cais i gynnal y digwyddiad
- Mae’r gystadleuaeth yn dod â llawer o arian a chyhoeddusrwydd i’r wlad lle y cynhelir y Gemau
- Dyfeisiwyd y Gemau Olympaidd gan yr Hen Roegiaid
- Ei nod yw hybu cyfeillgarwch rhwng gwledydd
- Mae gemau Olympaidd yn cynnwys y canlynol:–ÂÂ
- athletau
- gymnasteg
- seiclo
- acwateg
- badminton
- pêl–fasged
- ffensio
- pêl–law
- pêl–droed
- rhwyfo
- hwylio
- saethu
- taekwondo
- tenis
- codi pwysau
- reslo
- hoci
- judo
- saethyddiaeth
- triathlon
- pêl–foli
- tenis bwrdd
- pentathlon
- paffio/bocsio
- marchogaeth
- Medal aur Olympaidd yw’r anrhydedd fwyaf y gall athletwr neu chwaraewr proffesiynol obeithio ei ennill yn eu gyrfa
- Mae medalau’n cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sy’n dod yn gyntaf, yn ail ac yn drydedd yn eu camp. Rhoddir medal aur ar gyfer y cyntaf, arian ar gyfer yr ail ac efydd ar gyfer y trydedd.
Y Seremoni Agoriadol
- Mae’r Gemau Olympaidd yn agor gyda seremoni swyddogol lle y codir baner genedlaethol y wlad sy’n cynnal y gemau, a chaiff ei hanthem genedlaethol ei pherfformio
- Mae’r seremoni’n cynnwys paredau gan y cenhedloedd sy’n cystadlu, lle y bydd athletwyr yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm fesul gwlad
- Mae un athletwr/wraig anrhydeddus o bob gwlad yn cael cario baner ei (g)wlad, gan arwain gweddill yr athletwyr o’r wlad honno
- Yn draddodiadol, Gwlad Groeg sy’n gorymdeithio’n gyntaf, a’r wlad sy’n cynnal y gemau sy’n dod yn olaf
- Ar ôl i’r cenhedloedd i gyd fynd i mewn i’r stadiwm, mae llywydd Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd o’r wlad honno yn gwneud araith. Dilynir hyn gan araith gan lywydd yr IOC, sydd yn ei dro yn cyflwyno pennaeth y wladwriaeth lle y cynhelir y digwyddiad i agor y Gemau’n swyddogol
Y Fflam Olympaidd
- Uchafbwynt y seremoni agoriadol yw cynnau’r Fflam Olympaidd
- Mae’r Fflam Olympaidd yn dân sy’n cael ei gadw i losgi trwy gydol y Gemau Olympaidd, a dyma symbol o’r Gemau. Mae’n cynrychioli gobaith a dygnwch diderfyn yr athletwyr
- Mae’r Fflam Olympaidd yn cael ei gynnau yn y ddinas lle y dechreuodd y Gemau – sef Olympia yng Ngwlad Groeg – a chaiff ei gludo i’r ddinas sy’n cynnal y gemau gan redwyr sy’n cario’r Tortsh Olympaidd mewn relái
- Fel arfer, mae’r rhedwr olaf yn athletwr enwog sy’n rhedeg i mewn i’r stadiwm gyda’r tortsh yn ystod y Seremoni Agoriadol ac yn cynnau’r Fflam Olympaidd ym mhair y stadiwm
Y Seremoni Cau
- Mae’r Gemau’n dod i ben gyda seremoni cau sy’n nodi diwedd y digwyddiad ac yn edrych ymlaen tuag at yr un nesaf
- Mae tair baner genedlaethol yn cael eu codi wrth i’r anthemau cenedlaethol cael eu chwarae – baner Gwlad Groeg, baner y wlad lle y cynhaliwyd y Gemau, a baner y wlad fydd yn cynnal y Gemau nesaf
- Mae pobl sy’n dal baneri yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm, ond mae’r athletwyr yn cerdded y tu ôl iddyn nhw heb wahaniaethu o ran cenedligrwydd
- Caiff y Fflam Olympaidd ei ddiffodd wrth i’r anthem Olympaidd gael ei chwarae, ac mae’r Faner Olympaidd a godwyd yn ystod y seremoni agoriadol yn dod i lawr, ac yn cael ei chario allan o’r stadiwm
- Bydd y Gemau Olympaidd nesaf yn cael eu cynnal yn Beijing, Tsieina yn 2008, ac yn Llundain yn 2012
A wyddoch chi…?
- Mae’r cofnodion cyntaf o ddathlu’r Gemau Olympaidd yn yr Hen Roeg yn dod o 776 CC, ond roedd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn gynharach o lawer na hynny
- Roedd yr Hen Roegiaid yn credu’n gryf mewn cystadlu ac roedd pob agwedd ar fywyd yn seiliedig ar yr egwyddor hon. Un o anrhydeddau mwyaf bywyd oedd bod yn fuddugol yn Olympia, ac felly yr unig wobr ar y pryd oedd torch olewydden
- Cafodd enillwyr y Gemau yn yr Hen Roeg eu mawrygu mewn cerddi a cherfluniau
Gemau Olympaidd y Gaeaf
- Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1924, yn gyfwerth â’r Gemau Haf, er bod y chwaraeon yn digwydd ar iâ ac eira.
- Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, ond ar adeg wahanol i Gemau Olympaidd yr Haf
- Mae chwaraeon Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys:–
- car–lusg (bob–sleigh)
- cyrlio
- hoci iâ
- sglefrio
- sgïo
- luge
- biathlon
- Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn cael eu cynnal yn Vancouver, Colwmbia Prydeinig yng Nghanada





