Croeso i Ieuenctid Sir Gâr! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Teulu a Pherthnasau » Bod mewn Perthynas » Canlyn rhywun

  • Mae canlyn rhywun yn golygu eich bod chi mewn perthynas ramantus â’r person hwnnw neu honno. Mae pob perthynas yn wahanol, felly ceisiwch beidio â chymharu’ch perthynas chi â rhai eraill neu adael i unrhyw un arall benderfynu pwy y dylech chi eu canlyn.
  • Fe ddylai’r berthynas iawn wneud ichi deimlo’n dda amdanoch chi’ch hun. Fe ddylech chi deimlo eich bod chi’n gallu ymlacio a’ch bod chi’n hyderus ac yn hapus gyda’r person hwnnw neu honno.
  • Nid oes unrhyw frys i ddechrau perthynas â rhywun. Arhoswch nes eich bod chi’n teimlo’n barod ac yn ddigon aeddfed i fod mewn perthynas cyn y byddwch chi’n dechrau canlyn unrhyw un.

Dod at eich gilydd

  • Gall bod yn ffrindiau da fod yn sylfaen solet ar gyfer perthynas lwyddiannus gan y byddwch chi eisoes yn adnabod y person hwnnw neu honno’n dda.
  • Gall fod yn brofiad ingol gofyn i rywun fynd allan gyda chi.  Os ydych chi eisoes yn adnabod eich gilydd, efallai y bydd hyn yn eich helpu i wybod y ffordd orau o ofyn.
  • Mae pawb yn wahanol ac nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o ofyn i rywun fynd allan gyda chi.

Cyfarfod â phobl newydd

  • Gallwch chi gyfarfod â phobl newydd yn yr ysgol, y coleg, ac mewn clybiau ar ôl ysgol neu, yn wir, drwy gymdeithasu.
  • Fe allai’r Rhyngrwyd fod yn ffordd dda o gyfarfod â phobl newydd, yn enwedig os ydych chi’n swil neu os ydych chi’n byw mewn ardal anghysbell.  Ond mae yna rai peryglon penodol yn gysylltiedig â chyfarfod â phobl ar-lein, felly byddwch yn ofalus wrth wneud hyn.  Gwelwch adran: Perthnasoedd Ar-lein

Pan rydych chi gyda’ch gilydd

  • Mae perthnasoedd wedi’u seilio ar barch ac ymddiriedaeth y naill i’r llall
  • Mae bod mewn perthynas â rhywun yn golygu eich bod chi wedi ymrwymo iddyn nhw.  Bydd bod yn ffyddlon yn adeiladu ymddiriedaeth rhyngoch chi a’ch partner.
  • Mae cusanu a bod yn gariadus yn rhan naturiol o unrhyw berthynas, ond byddwch yn ofalus nad ydych chi’n rhy gariadus mewn mannau cyhoeddus gan y gallai hyn wneud i bobl eraill sydd o gwmpas deimlo’n anghyfforddus!
  • Mae hi i fyny i chi faint o amser y byddwch chi’n ei dreulio gyda’ch gilydd – nid oes yn rhaid ichi deimlo y dylech chi fod yn gwneud yr un peth â pharau eraill. Mae eich perthynas chi yn unigryw i chi, felly gwnewch beth bynnag mae’r ddau ohonoch chi’n mwynhau ei wneud.
  • Cymerwch amser i ddod i adnabod rhywun.  Mwynhewch yr amser rydych chi’n ei dreulio gyda’ch gilydd, a pheidiwch â rhuthro i mewn i unrhyw beth

Rhyw

  • Nid oes yn rhaid cael rhyw ym mhob perthynas. Bydd llawer o barau yn mwynhau bod gyda’i gilydd a dim mwy. Fodd bynnag, mae rhyw yn fwy pleserus os ydych chi mewn perthynas, cyn belled â’ch bod chi’n ei wneud yn ddiogel
  • Peidiwch â theimlo eich bod chi dan bwysau i gael rhyw gyda’ch partner os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus.  Os yw’ch perthynas chi’n arbennig ac yn debygol o bara, fe fydd eich partner yn aros nes eich bod chi’n barod

Ffraeo

  • Gall fod yn brofiad gofidus a rhwystrol ffraeo â’ch partner, ond mae hyn yn rhan normal ac iach o unrhyw berthynas. Mae’n caniatáu ichi fynegi eich teimladau i’ch gilydd, cadw’r sianeli cyfathrebu ar agor a lleisio unrhyw broblemau, yn hytrach na mygu arnyn nhw’n dawel bach
  • Fodd bynnag, mae’n bosibl osgoi ffraeon weithiau trwy wneud amser i’ch gilydd. Cydbwyswch eich amser yn ofalus rhyngoch chi’ch hun, eich ffrindiau a’ch partner
  • Os ydych chi’n ffraeo’n amlach nag rydych chi’n teimlo y dylech chi, ac rydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad â’ch partner, siaradwch â rhywun arall rydych chi’n agos ato neu ati.  Efallai y bydd o help i weld problemau yn eu gwir oleuni a chynnig datrysiadau newydd
  • Cofiwch – mae cyfathrebu da yn hanfodol i unrhyw berthynas.  Mae’n bwysig rhannu’ch teimladau er mwyn deall eich gilydd yn well

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50