NEWID BYD ar gyfer S4C...Oddi chi'n 17 - 18 mlwydd oed???
Mae Cwmni Telesgop yn cynhyrchu ail gyfres o NEWID BYD ar gyfer S4C. Yn dilyn llwyddiant cyfres y llynedd, fe fydd y gyfres eleni yn cynnig y cyfle i 4 person ifanc rhwng 17 -18 oed ymweld â gwlad tramor am dair wythnos yn ystod yr haf i gyflawni gwaith gwirfoddol, dan ofal arweinydd profiadol.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc addas, sy’n gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol yn barod ac sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, ac felly, mi fyswn yn gwerthfawrogi’n fawr petaech chi’n gallu pasio’r wybodaeth ymlaen at bwy bynnag fo’n berthnasol. Mae’r dyddiad cau ar Fai y 14eg, 2012. Mae’r holl wybodaeth a ffurflen gais ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar wefan www.s4c.co.uk/newidbyd






